Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc.

Mae cylch gorchwylyr ymchwiliad fel a ganlyn:

¡  Pa mor effeithiol yw ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?

¡  Pa gamau y gellir eu cymryd i wella neu gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i ddarpar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

Y materion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn yw:

¡  Beth yw profiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

¡  Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? A yw'n ddigonol?

¡  Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru?

¡  Sut mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yn ymgorffori materion fel cydraddoldeb, menter gymdeithasol ac amrywiaethau rhanbarthol mewn sgiliau a chyfleoedd hyfforddi.

¡  Pa gyfleoedd a gaiff eu cyflwyno drwy ehangu entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc fel modd o fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch ymysg pobl ifanc?

¡  I ba raddau y mae entrepreneuriaeth yn ganolog i sefydliadau addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru?

¡  Pa dystiolaeth sydd ar gael o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gefnogi ac annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?

¡  Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso ei gweithgareddau entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? Pa effaith y mae wedi ei chael ar nifer y bobl sy'n dechrau busnes?

¡  Pa enghreifftiau o arfer da ym maes polisi entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc y gellir eu canfod o fewn Cymru, yn ehangach o fewn y DU, ac yn rhyngwladol?

Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau.

Yn gyffredinol, rydym yn gofyn am dystiolaeth yn ysgrifenedig gan ei bod yn arferiad gennym gyhoeddi tystiolaeth ar ein gwefan fel ei bod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Gallwn, fodd bynnag, dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn ystyried yr ymatebion i'r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at
 pwyllgor.menter@cymru.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai eich tystiolaeth ein cyrraedd erbyn 1 Mai 2013 ac ni ddylai fod yn fwy na phum tudalen o A4. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.